Llinell Gymorth Iechyd ar Waith Cymru - 0800 107 0900
Beth
yw Llinell Gymorth Iechyd ar Waith Cymru?
Mae Llinell Gymorth Iechyd ar Waith Cymru yn wasanaeth sy'n rhoi mynediad hwylus, dros y ffôn, at gyngor iechyd galwedigaethol proffesiynol i reolwyr mewn busnesau bach, er mwyn eich helpu i gefnogi eich gweithwyr. Mae pob galwad yn gyfrinachol ac mae'r cyngor yn rhad ac am ddim. Drwy ffonio'r llinell, gallwch gael cyngor ar:
Pwy all ffonio'r llinell?
Cynulleidfa darged y llinell gyngor yw rheolwyr llinell busnesau bach, ond gallwch hefyd ffonio am gymorth os ydych yn gweithio i fusnes bach.
Pam ffonio?
Amcangyfrifwyd bod absenoldebau oherwydd salwch yn costio tua £517 ar gyfartaledd fesul gweithiwr mewn costau anuniongyrchol. Nid yw hynny'n cynnwys costau eraill sy'n codi yn sgil diffyg cynhyrchiant a ffioedd asiantaethau i ddarparu gweithwyr yn lle'r rheini sy'n absennol. Gellid osgoi'r rhan fwyaf o absenoldebau oherwydd salwch drwy ddarparu mynediad amserol at gyngor a chymorth priodol.
Ffoniwch 0800 107 0900 nawr am gyngor i gefnogi eich staff, ac i leihau effaith absenoldebau oherwydd salwch ar eich busnes.

Cyngor iechyd galwedigaethol cyfrinachol, rhad ac am ddim, ar gyfer busnesau bach yng Nghymru
![]()